Cynghreiriau Cymdeithasol

I’r rhai sydd am fwynhau chwaraeon tîm cyfeillgar heb orfod ymrwymo i glwb, mae ein Cynghreiriau Cymdeithasol yn cynnig fformat cynghrair rheolaidd a strwythuredig sy’n cynnwys nifer o chwaraeon gwahanol.

Mae gennym ystod o gynghreiriau ar gael yn wythnosol, yn ogystal â thwrnameintiau, gwyliau a digwyddiadau hwyliog a chystadleuol sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein cynghreiriau ar agor i bobl o bob lefel gallu ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a staff fwynhau cystadleuaeth hwyliog, fforddiadwy a chyfeillgar, naill ai ar gampws y Brifysgol neu yn agos ato. Mae ein cynghreiriau cymdeithasol yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd a phresennol, gyda’r opsiwn i ymuno fel unigolyn neu fel grŵp.

Cymerwch gip ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig isod.

Cynghreiriau Cymdeithasol

Archwiliwch ein cynghreiriau cymdeithasol: